SL(6)448 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2024

Cefndir a Diben

Mae Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (“Deddf 2023”) yn gweithredu nifer o newidiadau i’r system ardrethu annomestig yng Nghymru a Lloegr.

Daeth Rheoliadau Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2023 (“Rheoliadau 2023”) i rym ar 27 Hydref 2023 a gwnaethant ddiwygiadau technegol i is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â Chymru sy’n ganlyniadol ar Ddeddf 2023.

Mae’r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2024 ("y Rheoliadau") yn mynd i'r afael â materion a godwyd yn y tri phwynt adrodd technegol yn adroddiad ar Reoliadau 2023 y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Dylai diwygiadau penodol a wneir gan Reoliadau 2023 fod wedi’u mynegi fel rhai sy’n cael effaith ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2024 neu ar ôl hynny. Yn hytrach, daeth y darpariaethau hyn i rym o'r dyddiad y daeth Rheoliadau 2023 i rym, sef 27 Hydref 2023.

Mae’r Rheoliadau yn datrys y mater hwn drwy:

·         ailddatgan y gyfraith fel yr oedd yn gymwys cyn 27 Hydref 2023 gan ddod i rym ar unwaith (Rhan 2), ac

·         ail-wneud y diwygiadau yn Rheoliadau 2023 i ddod i rym o 1 Ebrill 2024 (Rhan 3).

Y weithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn unol â rheoliad 1(3) a (4), daw Rhannau 1 a 2 o'r Rheoliadau i rym ar 19 Ionawr 2024 a daw Rhan 3 i rym ar 1 Ebrill 2024.

Mae'r wybodaeth dyddiad mewn ffont italig a nodir o dan deitl y Rheoliadau ond yn cyfeirio at 19 Ionawr 2024 fel y dyddiad dod i rym. Gofynnir i Lywodraeth Cymru pam nad yw hyn yn dilyn y fformat arferol ar gyfer offerynnau sydd â mwy nag un dyddiad dod i rym, naill ai trwy ddarparu bod y Rheoliadau yn dod i rym "yn unol â rheoliad 1(3) a (4)" neu drwy nodi'r ddau ddyddiad dod i rym ar wahân (gweler Ymarfer Offeryn Statudol ym mharagraff 3.10.4).

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodir bod y gyfraith, yng ngoleuni’r ffaith bod y diwygiadau yn Rheoliadau 2023 wedi’u cychwyn yn gynamserol, yn anghywir rhwng 27 Hydref 2023 a 19 Ionawr 2024 (sef y dyddiad y daw'r Rheoliadau i rym).

Mae paragraff 18 o'r Memorandwm Esboniadol yn darparu’r canlynol:

Caiff copïau o Reoliadau 2024 eu hanfon at holl dderbynwyr hysbys Rheoliadau 2023 yn rhad ac am ddim er mwyn sicrhau nad yw defnyddwyr y mae angen copi arnynt yn cael eu rhoi o dan anfantais drwy orfod talu amdano. Nid yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o unrhyw effeithiau andwyol sy'n deillio o'r hepgoriadau yn Rheoliadau 2023.  Byddai unrhyw effeithiau o'r fath wedi cael eu dwyn i sylw Llywodraeth Cymru gan randdeiliaid, yn enwedig awdurdodau bilio lleol.

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn y torrir y confensiwn 21 diwrnod (h.y. y rheol y dylai 21 diwrnod fod rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a'r esboniad am dorri’r rheol, a ddarparwyd gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, mewn llythyr at y Llywydddyddiedig 17 Ionawr 2024.

Yn benodol, rydym yn nodi’r hyn y mae’r llythyr yn ei ddweud ynghylch yr angen i ddod â’r Rheoliadau i rym cyn gynted â phosibl er mwyn mynd i’r afael â’r materion a godwyd gan y Pwyllgor hwn yn ei adroddiad ar Reoliadau 2023, ac i sicrhau bod effaith polisi arfaethedig yr is-ddeddfwriaeth berthnasol yn cael ei chadw.

Cyfeirir at y mater brys hwn hefyd ym mharagraff 19 o'r Memorandwm Esboniadol fel rheswm ynghylch pam na chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad mewn perthynas â'r Rheoliadau.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r pwynt adrodd technegol yn unig.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

23 Ionawr 2024